1 Chronicles 15

Paratoi i symud yr Arch i Jerwsalem

1Dyma Dafydd yn codi nifer o adeiladau yn Ninas Dafydd. A dyma fe'n paratoi lle i Arch Duw, a gosod pabell yn barod iddi. 2Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r Arglwydd wedi eu dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.” 3Dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem, i symud Arch yr Arglwydd i'r lle'r roedd wedi ei baratoi ar ei chyfer. 4Dyma fe'n galw disgynyddion Aaron a'r Lefiaid at ei gilydd hefyd:

5Disgynyddion Cohath: Wriel, yr arweinydd, a 120 o'i berthnasau.
6Disgynyddion Merari: Asaia, yr arweinydd, a 220 o'i berthnasau.
7Disgynyddion Gershom: Joel, yr arweinydd, a 130 o'i berthnasau.
8Disgynyddion Elitsaffan: Shemaia, yr arweinydd, a 200 o'i berthnasau.
9Disgynyddion Hebron: Eliel, yr arweinydd, ac 80 o'i berthnasau.
10Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau.

11Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab. 12A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr Arglwydd, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi. 13Roedd yr Arglwydd wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.”

14Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr Arglwydd, Duw Israel. 15A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn.

16Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen. 17Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia. 18Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, Iaäsiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau.

19Roedd y cerddorion Heman, Asaff ac Ethan i seinio'r symbalau pres; 20Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach; 21Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain. 22Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes; 23wedyn Berecheia ac Elcana yn gofalu am yr Arch, 24a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch.

Symud yr Arch i Jerwsalem

(2 Samuel 6:12-16)

25Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-Edom i nôl Arch Ymrwymiad yr Arglwydd i Jerwsalem, gyda dathlu mawr. 26Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr Arglwydd, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd. 27Roedd Dafydd a'r Lefiaid oedd yn cario'r arch, y cerddorion, a Cenaneia, arweinydd y côr, mewn gwisgoedd o liain main. Roedd Dafydd yn gwisgo effod hefyd, sef crys offeiriad. 28Felly dyma Israel gyfan yn hebrwng Arch Ymrwymiad yr Arglwydd gan weiddi, a chanu'r corn hwrdd
15:28 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
ac utgyrn, symbalau, nablau a thelynau.
29Wrth i Arch yr Arglwydd gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.

Copyright information for CYM